Information
Translation to follow...
Gweledigaeth a Gwerthoedd
Hwylio’r don efo’n gilydd
Nod y Ffederasiwn hon yw sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i feithrin y sgiliau priodol i fod yn unigolion mentrus ac uchelgeisiol.
Bydd ein cwricwlwm cynhwysol yn grymuso plant gydag ystod eang o brofiadau dysgu fyddai’n eu galluogi i dyfu’n ddinasyddion egwyddorol a gwybodus all ddiogelu ei hunan ac eraill ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Bydd ein disgyblion yn ymfalchïo yng Nghymreictod a diwylliant ein hardal leol ac ymrwymwn i ennyn balchder yn yr iaith Gymraeg.
Byddwn yn cefnogi pob un o’n dysgwyr i gyflawni eu llawn botensial beth bynnag fo’u dyheadau a’u cryfderau i fod yn ddisgyblion iach, hyderus ac annibynnol, a thrwy hyn, datblygu meddylfryd a pherthnasoedd gadarnhaol fydd yn sylfaen gadarn i’r dyfodol.
Cynhelir hyn oll mewn awyrgylch diogel a hapus gan barchu pawb a phopeth.